Amdanom Ni

Siop go iawn yn nhref fechan Llanbedr Pont Steffan yng Ngorllewin Cymru yw The Snail of Happiness. Fe wnaethon ni agor ein drws (dim ond un sydd gennym) ym mis Mawrth 2022, er bod ein blog o’r un enw wedi bodoli ers dros 10 mlynedd.

Ein nod yw annog gwneud a pharatoi heb iddo gostio ffortiwn. Mae yna ddiwylliant yn y gymuned grefftio bod mwy yn well ac rydym am newid yr agwedd honno, gan annog crefftwyr a gwneuthurwyr i weld bod ansawdd uwch yn well, mae hen bethau sydd fel newydd yn well, mae pethau wedi’u hailddefnyddio a’u trwsio’n well.

Rydym yn angerddol am greu economi gylchol sy’n galluogi pobl i wneud a thrwsio’n hapus ac yn gynaliadwy. Credwn fod gwneud hynny’n dechrau gyda chymuned a dyna pam mae The Snail of Happiness yn gartref i glwb tecstilau, Noson Wau a’r Meddyg Crefft. Mae’n lle y gall pobl alw heibio i siarad am grefftio neu ddim ond cwyno am y tywydd!